Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweled y creigwyr wrth eu gorchwyl fry. Gwelsom y gwahanol haenau,—y garreg bach, y slont glai, y tew caled, y llygad bach, y llygad cefn, a'r bastard-tir. Gwelsom hefyd fel y deuai cerrig i fyny o bob dyfn i'r fan y safem arni.

Yr oedd y gwlaw yn dechreu disgyn gyda hyn, a gorfod inni droi'n ol i'r swyddfa. Wrth fynd i lawr gwelsom ddyn ieuanc unig, a thybiem fod golwg gynhyrfus arno, yn brasgamu ar draws y chwarel wag. Y goruchwyliwr oedd, Warren Roberts wrth ei enw. Nid oedd ganddo wybodaeth, ebe ef, pryd y doi'r streic i ben; dywedais wrtho y dylai ddiolch mai ym Meirion yr oedd yn oruchwyliwr, ac nid ym Morgannwg. Rhoddodd bob croesaw i ni weled y chwarel, ond yr oedd ei feddwl yn rhy gythryblus gyda phethau ereill i aros nemawr gyda ni. Wedi cyrraedd y swyddfa'n ol, deallais fy mod yn, gydnabyddus iawn ag enw'r gŵr a'n harweiniodd,—efe yw golygydd yr Ymwelydd, ac y mae wedi bod yn chwilio i'r un cyfeiriad a minnau.

Wedi ymadael a'r pregethwr caredig, arweiniodd ei fab ni i fyny i ben y chwarel, er mwyn i ni groesi'r gefnen fynydd at chwarel Foty a Bowydd. Wrth i ni godi i fyny, gwelem adran ar ol adran o chwarel y Llechwedd fel chwareudy crwn, ac yr oedd niwl glâs yn gwneyd yr olygfa'n fawreddog iawn. Yr oedd nant wyllt yn rhedeg i lawr o'r mynydd, yn ewyn trochionnog, ond yr oedd y dwfr yn hollol loew. Nid oedd bosibl gweled dim ond y mynydd a'r niwl trwchus, a cherrig gleision ac ambell aber drwyddo. Pan feddyliais mor iach a hyfryd