Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crwydrasom ymlaen at swyddfeydd y gwaith. Yr oedd distawrwydd llethol yno hefyd. Wedi cnocio, clywem swn troediad araf trwm. Daeth dyn byr i'r drws, a gadawodd i ni ofyn iddo a fedrem gael rhywun i'n harwain trwy'r chwarel. Edrychodd dros y llethrau gweigion, fel protest yn erbyn ein cwestiwn di-fudd, ond dywedodd fod croesaw i ni fynd i grwydro drwy'r chwarel ein hunain. Gyda ei fod wedi gorffen dweyd hyn, penderfynodd ddod gyda ni ei hun, gan nad oedd ganddo waith i'w wneyd. Gŵr byr, gweddol drwchus oedd; siaradai'n araf a phwyllog, mewn llais bas mwyn iawn. Tybiwn wrth wrando ar ei lais mai pregethwr ddylasai fod. Ni fedrem beidio son am y streic, ond yr oedd ef yn rhy ochelgar i ddangos ei ochr, nac i ddweyd dim ond hanes noeth. Dywedodd mai ar yr ail ar bymtheg o Fai y dechreuodd y streic: a'r achos, meddai, oedd "rhoi'r oil am byth" i rywun oedd heb gydweled â rhywun arall. Deallasom mai dull o ymadrodd am droi dyn ymaith oedd "rhoi'r oil" iddo, a syniad ein harweinydd am ystyr yr ymadrodd oedd mai gyrru dyn cyndyn i'r oil i ystwytho a feddylid. Heibio'r olwynion llonydd a'r gweithdy mawr gwag, daethom i fyny at un o'r lleoedd agored lle cyferfydd wageni llwythog o dyllau ymhob cyfeiriad. Yr oedd yr olwyn ddŵr yn mynd yn araf araf, ond yr oedd pob tryc wedi sefyll, yr oedd y cadwyni'n crogi'n ddiddefnydd ar y graig uwchben, ac nid oedd un creigiwr i'w ddisgwyl allan o un o'r tyllau duon oedd yn arwain i mewn i'r ddaear. Cawsom esboniad bychan difyr ar y dull o weithio chwarel; er y buasai'n fwy dyddorol pe buasem yn cael