Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon


II. Y PERTHI LLWYDION

YR oedd yn ddiwrnod sych oer yn nechre Ebrill, a gwynt miniog yn crwydro dros y ddaear lle cysgai blodau'r dydd a'r brieill eto, er ei bod yn bryd i'r anemoni godi ei ben o gwsg hir y gaeaf. Yr oedd yr eira eto'n aros ar gopâu pell y mynyddoedd, a rhyw niwl drosto, yn holl ogoniant glas a gwyn diwedd gaeaf. Daeth awydd ataf i fynd i fyny i'r mynyddoedd ar grwydr, ac i droi o gwmpas rhai o gartrefi enwog Cymru. Cefais gyfaill, oedd yn berchen march cadarn cyflym a cherbyd uchel ysgafn, ac yn meddu llawer o wybodaeth am natur dyn ac anifeil, i ddod gyda mi. Rhag i ni fentro i gymoedd rhy anghysbell, a throi'r cerbyd yn awr ac yn y man wrth gornelau er mwyn chwareu, anfonwyd merch ieuanc gyda ni. Cadwgan oedd enw'r gŵr, Enid oedd enw y ferch ieuanc, a Sanspareil oedd enw y march.

Os buost, ddarllennydd, yn teithio gyda chwmni cyffredin, a march cyffredin yn dy