Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dynnu, hyd y ffordd hir uchel o'r Bala i Gerrig y Drudion, y mae'n debyg iti ofni na welet ddiwedd y ffordd honno byth. Ond yr oedd sylwadau Cadwgan ac Enid ar y natur ddynol mor newydd, ac yr oedd cyflymder Sanspareil gymaint yn fwy na chyflymder hen geffyl hirflewog oedd yn dringo'r rhiwiau draw ymhell o'i flaen, fel na feddyliais i unwaith fod y ffordd honno'n hir. Y mae'n wir fod Cwm Tir Mynach yn hir ac yn llwm ac yn oer; ac y mae y bobl yn gyffredin yno wedi bod yn rhy enwog i'r un o honynt dynnu sylw y byd yn fwy na'r lleill. Er hynny, nid yw y lle heb ei ddyddordeb. Yr oedd mawredd yn y gweunydd hirion gwlybion, yn ymgolli mewn mynyddoedd eiraog o bob tu. Yr oedd yr enwau yn awgrymu hanes coll hefyd,—Gorsedda Maes y Gadfa, a Hafod yr Esgob. Adroddai Cadwgan ddetholion o hanes yr amaethwyr oddiwrth ryw arwyddion welai ef. "Mae dyn yn byw yn y fan acw," meddai, "heb ddim min ar ei gyllell wair." Syrthiodd fy llygad ar y dâs wair; yr oedd yn debycach i bigyn bryn nag i ddâs a'i fagwyrydd wedi eu torri yn lân a thaclus. Hawdd oedd deall faint o fin oedd ar y gyllell wair. A gwn rai gwirioneddau cyffredinol am un sydd heb fin ar ei gyllell wair, ei bladur, neu ei rasel. Clywais hefyd ddarllen cymeriad llawer un y diwrnod hwnnw oddiwrth ymddanghosiad ei dŷ, ei dda byw, a'i wrychoedd, a'i gloddiau. Tan son am y natur ddynol, cyrhaeddasom fan uchaf ein ffordd. Tybiwn nas gallai unlle edrych yn oerach a mwy anial na Llechwedd Figin,—hyd yn oed Hafod Nwydog yr ochr arall i'r mynydd. Yr oedd y