Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffordd dros fil o droedfeddi uwchlaw lefel y môr, a'r lluwchfeydd yn dod i'w hymyl; yr oedd Llechwedd Figin ar fron serth tua dau gant a hanner o droedfeddi'n uwch wedyn. Yn y wlad agored ddigoed hon, deuai gwynt caled oddiar y bronnau o eira rhewedig fry i'n cyfarfod. A fedr rhyw syniad pleserus ddod i feddwl dyn pan fydd arno anwyd o'i draed?

Ond beth pe gwelech y llecyn hwn yn yr haf,—pan fo pen melynwyn brenhines y weirglodd yn crymu uwch dwfr grisialaidd y nant sy'n dilyn y ffordd, pan fo gwartheg enwog am felusder eu llefrith yn ymfwynhau yn yr awelon cynnes ar y llethrau fry, pan rydd y grug berarogl hyfryd gwan i'r awel, pan geir yr unigedd tawel hwnnw sy'n well darlun i mi o'r nefoedd na dim arall y gallaf feddwl am dano? A beth pe byddech yma ar hafnos dawel ganol Awst? Y mae'r ardal yn ddistaw bob amser, ond a'n ddistawach at y nos, distawrwydd rydd lais gwylaidd i aberoedd y mynydd, ac i adlais yr afon o'r dyffryn draw, sy'n cyhoeddi

"Fod eto ar y bryniau lef
Dragwyddol o addoliad. Obry clyw
Yr afon hithau ar ei milwedd daith,
Yn llanw dyffryn ar ol dyffryn ag
Angylaidd for o addoliadol swn."

Ac onid yw enwau fel Nant yr Ewig a Ffridd y Gwair yn dwyn adgofion, hyd yn oed ar ddechreu gwanwyn llwm, am yr arogl meillion a'r gwair cynhauafus fydd yma ymhen rhyw ddeufis neu dri?

Ond y mae carnau Sanspareil yn taro tân o'r cerrig wrth i ni gyflymu i lawr at Gapel y Gellioedd,