Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a rhedeg yn chwyrn gydag ochr y mynydd uwchben Nant yr Hengwm a gwaelod Llangwm. Wrth Hendre Garthmeilio try y ffordd yn sydyn i'r gogledd, a daw rhewynt i'n cyfarfod wna i mi wasgu dannedd yn dynn rhag iddynt glecian ar eu gilydd, a gwrando ar Gadwgan yn esbonio i Enid paham y mae coed larch yn dihoeni yn yr uchder yma, a phaham na phery clawdd weiar byth.

I lawr a ni yn orwyllt at Bont Moelfre, a cheisiwn ddarbwyllo fy hun fod arnaf lai o anwyd wedi disgyn dros ddau can troedfedd i ffordd enwog Caergybi. Y mae Cerrig y Drudion o'n blaenau, fel dinas ar fryn; ac ar fyrder yr oeddym mewn ystafell glyd yn y Saracen's Head o flaen tanllwyth o dân, a'n hanwyd a'n newyn yn hyfryd ddiflannu.

Wedi cynhesu a dadluddedu yn y cartref fforddolion croesawus hwn, a gwrando ar y porthmyn yn siarad Cymraeg campus yr ardaloedd yma, cychwynasom tua chartrefi Edward Morris a Jac Glan y Gors,—y naill yn fardd melusaf yr unfed ganrif ar bymtheg, a'r llall yn gynrychiolydd Cymreig ysbryd chwyldroadol y ddeunawfed ganrif. Dringasom i'r pentref, ac ar y ffordd troisom i ymweled â Hugh Hughes. Hen athraw, fel y finnau, yw ef; ac y mae'n cael hamdden yr hiraethais innau lawer am dano, i gasglu barddoniaeth Gymreig. Y mae ei fryd ar gasglu a chyhoeddi holl waith Edward Morris, y bardd mwynber o'r Perthi Llwydion. Danghosodd imi y gyfrol olaf oedd wedi ysgrifennu; ac wrth sylwi ar dlysni digryn y llawysgrif, a gwrando ar ysgwrs lawen yr hen lenor sionc, prin y gallwn gredu ei fod