Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi cefnu ar ei bedwar ugain oed. Ond, o ran hynny, yn y wlad iach agored hon, gallwn feddwl mai hawdd yw byw'n hen a siarad Cymraeg glân gloew. Am ennyd y meddyliais hynny; daeth i'm cof wyneb mwyn genethig brydferth fu'n byw ar y fron draw, adwaenwn gynt, a hunodd ymhell cyn i wrid ieuenctyd adael ei grudd.

Pan ffarweliasom â Mr. Hughes yr oedd yr haul yn gwenu ac yn cynhesu'r awel. Safasom ennyd wedi cyrraedd canol y pentref, rhwng yr eglwys a gwesty to gwellt. Pentref bychan ydyw, ar fryncyn noethlwm. Hanner can mlynedd yn ol yr oedd rhai'n cofio crug o gerrig ger yr eglwys,—beddau hen ddrudion neu wroniaid,—ac oddiwrthynt hwy y cafodd y pentref, a rhyw ugain mil o aceri o rosdir a mynydd o'i amgylch, eu henw. Y mae Cerrig y Drudion yn ganolbwynt ffyrdd lawer. A un i'r de ddwyrain gyda'r afon Ceirw i Gorwen, ac oddiyno i Loegr; un arall i'r dwyrain, drosodd i ddyffryn Alwen a Llanfihangel Glyn Myfyr, ac oddiyno i Ddyffryn Clwyd; a'r ffordd y daethom ni hyd-ddi i'r de i Feirion. A ffordd arall i gyfeiriad y de, heibio i Dy'n Rhyd i Gwmpenaner. Rhed ffordd Gorwen,—ffordd fawr Caergybi,—i'r gorllewin tua Betws y Coed. Rhed ffordd arall i'r gogledd. Yn wir buasai gwe pryf copyn yn eithaf map o Gerrig y Drudion a'i ffyrdd. Noethlwm yw'r wlad o amgylch y pentre, ond tra mawreddog. Mae mynyddoedd pell eiraog yn ymyl gwyn i wlad eang o gaeau llwyd-goch, ac y mae'r ffordd fawr union lydan yn deffro adgofion am amser yr oedd yn brif dramwyfa rhwng Prydain a'r Iwerddon.