Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y ffordd i'r gogledd oedd ein ffordd ni. Os gofynnwn i ble yr oedd yn arwain, dywedid wrthyf res o enwau nad oeddwn wedi clywed am danynt erioed o'r blaen, yn amaethdai a mynyddoedd. Yr oedd un eithriad. Clywswn enw'r Hafod Lom mewn pennill glywais hen sant, nad yw yn awr ymhlith y byw, yn ganu i ysgafnhau ei feddwl pan fyddai'r byd yn gwasgu arno,—

"Mi af oddiyma i'r Hafod Lom,
Er ei bod hi'n drom o siwrne;
Mi gaf yno ganu cainc,
Ar ymyl mainc y simdde;
Ac ond odid dyna'r fan
Y bydda'i dan y bore."

Cyn mynd nemawr hyd y ffordd, troisom ar ein chwith, a dechreuasom gerdded yr hen ffordd tua'r gorllewin. Hon oedd ffordd y wlad cyn gwneyd ffordd fawr Caergybi yn is i lawr. Er cymaint y mae'n droelli gyda godreu'r mynydd, y mae'n amlwg oddiwrth y murddynod sydd ar ei hymyl mai hyd-ddi hi unwaith y cerddai masnach yr ardaloedd. Ymysg yr adfeilion tai tyf ambell griafolen neu fedwen, megis pe'n ceisio dynwared harddwch plant fegid yno gynt: a saif ambell fur talcen, wedi herio gwyntoedd gaeafau lawer, yn glod i ryw saer maen gwledig sydd ers blynyddau bellach yn y fynwent draw.

Hen ffordd ddyddorol yw hon, hyd yn oed i deithiwr na ŵyr fod Edward Morris wedi ei eni un ochr iddi, a Jac Glan y Gors yr ochr arall. Ar y dde yr oedd caeau newydd eu haredig, o liw coch cynnes, yn graddol godi i fynyddoedd