Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grugog. Ar y chwith yr oedd rhes hir o fynyddoedd gleision,—amlinellau hirion esmwyth, gydag ambell luwchfa o eira yn torri ar brydferthwch unlliw y glas tyner. Rhed y drum fynyddig rhwng Meirion a sir Ddinbych, gan ymgodi i uchder Carnedd Filiast, 2,194 o droedfeddi, teilwng chwaer i'r Aran a'r Arennig. Wrth edrych ar linell donnog y copâu glas a gwyrdd, cofiwn mai eithaf naturiol oedd i Fatthew Arnold dybio fod rhywfaint o'r dwyfol i'w weled mewn rhes o fynyddoedd.

Gofynnem y ffordd i bob un o'r bobl radlon garedig a gyfarfyddem, er mwyn eu clywed yn siarad Cymraeg,—yr wyf yn credu fod yma y Cymraeg puraf a llawnaf yng Nghymru. Rhoddai Cadwgan wybodaeth gyffredinol inni, wrth edrych ar y ffermdai a'r caeau odditanom, megis,—"Mae'r gwartheg duon gore yn y byd yng Ngherrig y Drudion yma." Yr oeddym yn graddol nesu, yn ol yr ysgwrs a gaem â phob fforddolyn, at y Perthi Llwydion. Cofiais nad oedd gennyf gamera gyda mi, ac nid wyf yn fedrus gyda'm pensel. Felly ni chawn ddarluniau i fyned adre gyda mi o gartref pell Edward Morris. Ond, os gorfod i mi wneyd heb ddarluniau, osgoais lawer o drafferth. Lawer tro, pan yn cario fy nghamera gyda mi, dilynid fi gan dorf o blant. Credent mai conjurer oeddwn, ac y rhoddwn y clud i lawr pan gawn lecyn cyfleus ar fin y ffordd, ac y diosgwn fy nghob, ac y tynnwn wydrau allan o'r bocs, y gorweddwn ar fy nghefn i ddangos fy medr i ddal gwydrau ar fy nhrwyn, ac y gwnawn lawer o ystumiau digrif ereill. Nid peth hoff gennyf yw peri siom i blentyn; ond y mae amryw bethau nas gallaf eu gwneyd.