Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyma'r drofa ar y dde, sydd i'n harwain at y Perthi Llwydion. Ar y drofa cyfarfyddir ni gan borthmon glandeg graenus, newydd brynnu ceffyl yn y Perthi Llwydion. Dychmygwn mai rhywbeth tebyg oedd Edward Morris pan safai ar y groesffordd hon, i wylio'r gyrroedd, ddwy ganrif yn ol. Rhed ffordd i lawr i bant, ac yn nythu'n ddigon clyd yn y pant wele'r Perthi Llwydion. Fel y mae yn awr, ty gwyn twt ydyw, gyda phorth cymhesur o'i flaen. Y mae ei wyneb i'r de-orllewin, edrych felly i gyfeiriad y gefnen y rhed y ddwy ffordd drosti,—y newydd yn rhedeg yn union fel saeth, a'r hen yn troelli ac yn gwyro fel sarff wedi ei hysigo. Saif y ty mewn hafn werdd, yn agored i'r haul, mewn cysgod rhag gwyntoedd y gogledd a'r dwyrain. Y mae llwyn o helyg tal glas yn sefyll fel rhes o wylwyr o flaen y ty. Feallai fod mwy o berthi yma unwaith; nid yw enw coed yn awr yn dangos fod yno goeden yn aros, nid oes un onnen yn aros ger "Llwyn On" draw. Oddiwrth y talcen pellaf oddiwrthym graddol godai llethrau gleision i fyny at beth elwid wrthym yn Graig Erchedd; ond ni welsom ddim yn erch yn yr olygfa, llym ac esmwyth oedd amlinellau'r olygfa, fel odlau Edward Morris.

O'm rhan fy hun, gwell gennyf wrando ar Edward Morris yn canu yn y mesurau rhyddion nag yn y mesurau caethion. Yr adeg honno, sef yn yr ail ganrif ar bymtheg, yr oedd hen Awen Cymru'n distewi, a'r newydd heb ddeffro. Yr oedd Tudur Aled wedi tewi ers can mlynedd, yr oedd can mlynedd i ddod cyn y clywai Cymru Williams Pant y Celyn. Yr oedd y boneddigion