Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn troi eu cefnau ar lenyddiaeth Cymru, yr oedd y werin heb ddysgu ei charu eto. Cwyna Edward Morris wrth yr Awen Cymreig nad oes neb a wrendy arni hi mwy, ond

"O'r Saisneg deg y digwydd
Purach wellhad, parch a llwydd."

Nid oes fri ar waith ein beirdd, ni roddir pris ar lyfrau Cymru mwy, a dyma dynged ysgriflyfrau Cymru,—

"Pob barcutan llyfran llwyd,
Heb lai acw a bliciwyd;
Colli'r plu, cael yn llaw'r plant,
A rhai eger a'i rhwygant;
Pob dalen gwelen g'wilydd,
Yn tanio tybaco bydd."

Ac ychydig obaith oedd am lyfrau newyddion, oherwydd

"Mae iaith gain Prydain heb bris,
Mae'n ddi-obrwy, mae'n ddibris;
Darfu ar feth, dirfawr fodd,
Ei 'mgleddiaid a 'm'gwilyddiodd;
Y Gymraeg a gam rwygir,
C'wilydd ar gywydd yw'r gwir;
Darfu ei braint a'i faint fu,
Ai mewn llwch y mae'n llechu?"

Cysura'r Awen ef trwy son am ychydig gartrefi Cymreig oedd eto'n gartrefi i'r hen iaith, ac yn nawddleoedd i'w llenyddiaeth,—y Gloddaeth, y Berth Ddu, Bodesgellan, a'u tebyg. Yn wir, hyd heddyw, y mae'r Mostyniaid a'r Wynniaid