Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Noblau cost yn ei blu cain,
Planedau 'mhob blaen adain."

Ond rhydd ddarlun llawer mwy newydd,—

"Lliw perffeth, a lliw porffor,
Lliw tân a mellt, lliw tonn môr."

Darlunia'r march du carlamus, a'r tarw—"crug ym min craig y mynydd,"—yn berffaith; oherwydd gwyddai am danynt hwy, a'u holl nodweddion, yn dda. Ond ei ganeuon rhydd melodaidd, gydag ambell darawiad cyfrin ynddynt, sy'n gwneyd i feddylwyr yr oes hon ei hoffi.

Edrychasom dro ar gartref tawel y porthmon llenyddol, tra'r cornchwiglod yn ehedeg yn y gwynt oedd yn codi uwch ein pennau erbyn hyn. Prysurasom ymaith, gan dorri ar draws cloddiau a chaeau,—Enid a'r cwbl,—o'r hen ffordd i gyfeiriad y ffordd newydd. Toc daethom i le gwastad fu unwaith yn gors, ac yr oedd afonig fechan yn crwydro trwyddo, fel pe'n hwyrfrydig i'w adael ac yn awyddus am ei wneyd yn gors fel cynt. Yr oedd cefn ty atom, troisom am ei dalcen, a chawsom ein hunain mewn buarth a beudai o'i gwmpas. Curasom wrth ddrws isel y ty, gan syllu ar lun carw, a dwy lythyren, a'r dyddiad 1703 uwch ei ben. Daeth gwraig radlon groesawus i'r drws.

"Beth yw enw'r lle hwn?"

"Glan y Gors."

Ie, dyma gartref un o feibion mwyaf athrylithgar Cymru, ond oedd yn rhy bell o flaen ei oes i gael ei ddeall. Nid wyf yn sicr a ddeallid ef hyd yn oed yn awr, pe ceisiai