Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid awn ni chwaith at gybydd tynn,
Yr hwn yw gelyn gwyliau,
Fe fydd o'i gut yn hysio'i gŵn,
Rhag tyner sŵn y tannau;
Hyd at haelion fel chwychwi,
'E wyllysiem ni gyrhaeddyd,
Ar ol ein cân, heb geisio cêl,
A ddwedo'n uchel,—'Iechyd.'"

Yr oedd Edward Morris yn cydoesi a'r Hen Ficer, a John Bunyan, a John Milton. Cyfansoddwyd "Canwyll y Cymry," "Taith y Pererin," a "Choll Gwynfa" yn ei amser ef, tra y tramwyai rhwng Cerrig y Drudion ag Essex, man ei eni a man ei fedd. Ceir aml darawiad o'u Puritaniaeth hwy yn ei ganeuon. Y mae'n troi'n bregethwr hyawdl yn ei "Gywydd Meddwdod"; dywed, wrth ddarlunio wyneb y meddwyn, am "yfed iechyd da,"—

"Dan dy drwyn gwenwyn i gyd
Yfi, achos afiechyd;
Trwyn perlog mawr, gwerthfawr gŷn,
Mor euraid a marworyn;
Tanbaid yw'ch llygaid, ŷch llôg,
Gloew gochion, ac ael guchiog;
Delw'r Tad, dileuwyd hi,
Gwarth wyneb, a gwrthuni;
Aflendid newid yn ail,
Dan yfed, i anifail."

Ond, fynychaf, darlunia dlysni'r byd hwn. Gallwn dybio iddo roddi llawer o amser i wylio rhodiad a bywyd y paun. Ail gyfyd hen ddarluniau,—