Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

angerddol; canodd y naill fawl yr Awen Gymreig, rhoddodd y llall warth bythol ar Ddic Sion Dafydd. Ac eto yr oedd y ddau yn anhebyg iawn i'w gilydd. Nid ymserchodd Edward Morris ddim yn chwyldroad ei ddyddiau ef. Ni chanmolodd Gromwell, llawenhaodd pan adferwyd Siarl yr Ail, canmolodd y Saith Esgob, a'i weddi oedd,—

"Ac nato Duw cyfion i'm tafod na'm calon
Wrthwynebu mo'r union wirionedd."

Pur wahanol fu croesaw Glan y Gors i'r Chwyldroad arall, gan mlynedd wedyn. Yn y Chwyldroad Ffrengig gwelodd ef wawr cyfnod rhyddid dyn. Condemniodd frenin ac uchelwr yn ddiarbed; ffieiddiodd y gwasaidd bradwrus. Galwodd sylw at gam gwerin Cymru. "Gwell gennyf," efe a gyhoeddodd, pan mewn ofn carchar, "farw yn ddyn rhydd na chael yr anglod o fyw'n ddistaw yn gaethwas dan rwymau gorthrymder."[1]

Mewn ychydig funudau croesasom o'r ty i ffordd Gaergybi. Yr oeddym yno ennyd o flaen y cerbyd oedd i'n cyfarfod, a chawsom hamdden i edrych ymlaen ac yn ol. O'n blaenau rhedai ffordd Gaergybi am ychydig bellder i fyny rhiw, gan golli o'r golwg ar ei ben. Yn union wedyn ceir uchder eithaf ffordd Gaergybi yn ei holl hyd, sef 908 troedfedd, ar gyffin

  1. Cyhoeddir cyfrol o WAITH GLAN Y GORS gan R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy, am 1/6. Casglwyd a golygwyd y gwaith gan Garneddog.