Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhediadau Dyfrdwy a Chonwy. Yn ol rhedai'r ffordd fel saeth i lawr i'r Cerrig. Codai a gostyngai,—weithiau diflannai y cerbyd oedd yn dyfod draw yn ei dyblygion,—ond i'r llygad nid oedd ond llinell wen unionsyth. Ar y dde, wrth edrych i'r Cerrig, y mae Clust y Blaidd a'r llethrau sy'n gwahanu afon Llaethog oddiwrth afon Ceirw. Ar y chwith y mae gwastadedd fu unwaith yn gorsiog, a da i'r hwn hoffai gerdded yn droedsych fod yr hen ffordd i fyny ar ochr y bryn. Ar y gwastadedd hwn saif Glan y Gors, a chefnau'r adeiladau i'r ffordd, ac yn cuddio wyneb y ty ond ei gorn simdde unig. Ychydig yn uwch i fyny, ac yn nes at y Cerrig, gwelir toau gleision y Perthi Llwydion. Gwlad o drumau esmwyth ydyw'r wlad, o amlinellau meddal hyfryd i'r llygad. Ehangder o rosydd a mynydd-dir ydyw, wedi ei thrin a'i gwrteithio yn dda. Er mai gwag, o'i chymharu a'r peth fu, yw y ffordd ardderchog sy'n rhedeg trwy'r ardal, y mae gwedd lwyddiannus yn aros ar y wlad.

Ond dyma ni oll yn gysurus yn y cerbyd. Y mae adgof am chwerthiniad iach yn dod i'm meddwl. O, 'rwyf yn cofio. Lawer blwyddyn yn ol yr wyf yn cofio myned heibio Glan y Gors mewn cerbyd gyda Dr. Edwards y Bala, ac yr wyf yn cofio chwerthiniad iach yr hen dduwinydd wrth adrodd y gerdd lle mae Jac yn dweyd hanes y person meddw yn sir Aberteifi roddwyd ar ei farch a'i ben at y gynffon,—

"O gwelwch y wyrth wnaeth yr Arglwydd â myfi,
Fy ngheffyl i'n fyw a'i ben wedi dorri."