Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ODDIAR Y GARREG HON
GERLLAW YR EGLWYS HON
Y TRADDODWYD Y BREGETH
GYNTAF YN LLEYN GAN

HOWEL HARRIS,

AR EI YMWELIAD CYNTAF A'R WLAD
ODDEUTU 2 O'R GLOCH DDYDD LLUN
CHWEFROR 2FED 1741.
EI DESTYN YDOEDD
"DELED DY DEYRNAS."

Ar yr ochr arall y mae englyn,—

Uwch anghof, mel adgofion—a hiraeth
Am Harris gwyd weithion;
Wele, cof—bwlpud hylon
Geiriau gras yw'r garreg hon.

1893.                     BEREN.

Can diolch i'r bardd roddodd y garreg hon yma. Cwyd hiraeth am Harris ar rai na wyddant ond am ei enw a'i waith. Pregethau tanllyd Howel Harris, dioddefiadau Morgan y Gogrwr, athrylith a ffyddlondeb llu o ddilynwyr iddynt,—y gwyr wnaeth wyr Lleyn yn foesol ac yn ddarllengar,—cychwynna hanes Lleyn y dyddiau hyn yn naturiol oddiwrth y garreg yma.

Acthom i fyny yr ochr arall i'r dyffryn bychan; ar y fron gwelsom blasdy bychan del Gallt y Beren. Cawsom Beren gyda'i weddoedd yng nghanol synynau o yd euraidd addfed, a chawsom ef yn llawn o gynlluniau am ddyfodol Lleyn,—am ffyrdd haearn ac addysg ac eisteddfodau a phob peth. Dringasom i fyny'r rhiw drachefn gan gymeryd amser i hel mafon