Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

duon ac i geisio adnabod y mynyddoedd oedd draw o'n holau, mynyddoedd Eifionnydd a Meirion. Cyn hir daethom i ben y rhiw, a gwelsom y ffordd yn rhedeg o'n blaenau rhwng dau fynydd mawr, gyda mentyll o goed neu redyn am danynt, a chrib o garreg noeth. Ar y dde gwelem eglwys Llanfihangel Bachellaeth, yng nghanol ei mynwent, heb dai yn agos ati, yn sefyll fel corlan ar fin y mynydd. Ac o'n blaen ymgodai Carn Fadryn, fel brenhines ardderchog Lleyn. Troisom o'r hen ffordd sy'n cyfeirio at odrau'r Garn, a rhedasom i lawr yn chwyrn i ddyffryn cul hyd ffordd dda. Edwards Nanhoron wnaeth y ffordd hon ar ei gost ei hun, ac y mae'r enwau roddodd ar y bont yn dangos mai yn amser rhyfel y Crimea y gwnaeth hi. Fel pe'n gwylio'r ffordd i lawr obry, safai bryncyn o graig, fel hen filwr wedi ei droi'n garreg,—a thu hwnt iddo gwelem y dyffryn yn culhau ac yn dyfnhau.

"I ble ddyfnaf y mae'r glyn cysgodion yma'n mynd?" ebe fi.

"Wn i ddim," oedd yr ateb, "ond Genau Uffern y maent yn galw'r bau ar lan y môr i lawr acw."

I lawr i lawr yr aem i'r dyffryn cul,—coed ar un ochr a drain a grug yr ochr serth arall. Hyd bennau'r gwrychoedd yr oedd gwynwydd aroglus. Gwelsom dŷ ar ochr y ffordd, a dywedir hanes am dano glywais am le arall. Ceryddodd y gŵr ei wraig, ac yr oedd y cerydd yn rhy lym. Galwyd y gŵr o flaen y seiat, a dywedwyd wrtho fod cyhuddiad difrifol yn ei erbyn,—ei fod wedi curo ei wraig. Rhoddodd yntau daw ar ei gyhuddwyr trwy sicrhau'r frawdoliaeth na cheryddodd ef mohoni ond â'r