Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gair. Yr oedd wedi rhoi Beibl bychan ysgwar mewn cwd rhyg, ac wedi wabio'r wraig â hwnnw. I lawr a ni yn chwyrn tua Nanhoron. Daethom at bont. Pont Rhyd y Dŵr y galwai'r bobl hi, ond sylwasom mai Inkerman oedd yr enw arni. Yn nes ymlaen y mae ffordd Balaklava. Yr oeddynt ar ganol gwneyd y ffordd ar yr adeg yr oedd aer Nanhoron yn ymladd yn y Crimea. Pan ddaeth y newydd ei fod wedi syrthio yn y frwydr o flaen Sebastopol, cerfiwyd enw Balaklava ar ffordd newydd ei dad, ac arhosodd meddyliau am y frwydr honno yn fyw yn nhrigolion Lleyn hyd y dydd heddyw. Cafodd y gŵr ieuanc hwnnw un o brif feirdd ei wlad i ganu am dano,—

Ymlusgodd y gelyn i ymyl ein ffos,
Pan wyliem ein brodyr i huno;
A'i ddrylliau borfforent dywyllwch y nos,
A tharan ar daran wnai ruthro.
 
"Ymlaen!" medd ein Cadben,—"ymlaen!" oedd ei lef,
Aem ninnau ar warthaf y gelyn;
Ychydig feddyliem mai marw 'r oedd ef
Pan oedd yn anadlu'r gorchymyn.

Wrth inni ddychwelyd canfyddem y lloer
Trwy hollt yn y cwmwl yn sylwi;
Gan ddangos ein Cadben, a'i fynwes yn oer,
Mor oer â'r bathodyn oedd arni.

Golchasom ei ruddiau â dagrau diri',
Ac ar ei weddillion syrthiasom;
Ymgiliodd y wenlloer, ond aros wnaem ni
Yn ymyl y gŵr a gollasom.