Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tra gwlith ar y ddaear a niwl yn y nen,—
A chyn i'r cyflegrau ymddeffro;
Fel milwr Prydeinig gogwyddodd ei ben
I'r bedd anrhydeddus wnaed iddo.

Lle huna Cimmeriaid boreuaf y byd
Mae yntau y dewraf o'u meibion;
O Walia fynyddig, o honot pa bryd
Daw milwr fel milwr Nanhoron!

Yn lle mynd i lawr i Nanhoron, troisom i fyny hyd ochr y Garn, gan weled golygfa newydd o hyd. I lawr yr oedd Porth Neigwl, neu Hell's Mouth fel y gelwir ef ar y mapiau. Pan yrrir llong iddo ar dymhestl dywedir nad oes obaith iddi ddianc. Ni fedr fynd heibio yr un o'r ddau benrhyn sydd yn cau am ochrau'r bau, ni welir ond dinistr yn ei haros. Dywedir fod gŵr bonheddig wedi ei droi o Ffrainc mewn cwch, a'r cwch i fynd ym mraich y gwynt i'r fan a fynnai. Daeth y cwch i Borth Neigwl, a daeth y gŵr dihangol yn hynafiad teulu Nanhoron. Dull pobl Lleyn o ddweyd Lorraine ydyw Nanhoron, meddai adroddwyr y chwedl hon. Nid wyf yn ameu na fuasai'n dda gan lawer brenin Ffrengig droi rhai o deulu Lorraine i'r môr; a buasai'n dda i Ffrainc pe buasai mwy o honynt wedi eu cyflwyno i drugaredd y gwynt,—hen erlidwyr chwerw fu llawer o honynt. Ail adroddiad ydyw'r hanes, hwyrach, o hanes Joseph o Arimathea; ond y mae mor debyg i wir a llawer ystori adroddir am achau boneddigion Lleyn.

Ond dyma olwg ardderchog ar y Garn, yr ydym wedi dechreu troi am dani. Ar ei llethr uwchlaw i ni y mae ardal o dai gwynion Garn