Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dolbenmaen. I lawr drachefn hyd riw serth at eglwys, a phentref bychan gwasgarog yn ei ymyl. Dyma bentref Llaniestyn. Eglwys, ysgol, ty to gwellt, ac ychydig dai ereill,—dyna'r cwbl sydd yno ond y fynwent. Ond gwyddem fod dau beth yn yr ardal hon na fynasem er dim beidio eu gweled,—cartref Ieuan o Leyn a bedd Robert Jones Rhos Lan. Cawsom afael mewn gŵr ieuanc nad ydyw ei enw yn anadnabyddus it, ddarllennydd mwyn, ac felly nid yn ofer y bu ein taith.

Ydyw," meddai, "y mae Robert Jones yn y fynwent yma, a dacw Dy'n y Pwll, cartref Ieuan o Leyn."

Cyfeiriodd ein sylw at ffermdy gwyngalchog, rhyw bedwar hyd cae uwch ein pennau, rhyngom a'r Garn. Yr oedd niwl yn crwydro hyd wedd urddasol y Garn, a honno'n edrych i lawr arnom dros gartref Ieuan o Leyn.

Ond cyn dringo'r Garn, troisom ein sylw at yr eglwys. Y mae rhesi o goed cysgodol o bobtu'r dramwyfa at ddrws yr eglwys; ac y mae eu cysgodion yn help i ddwyshau meddwl yr hwn elo iddi. Y mae golwg hynafol a dieithr ar yr eglwys pan eir iddi gyntaf. Gwelir eglwys ddwbl, gyda phedair colofn; y mae llofft uwch ben yr hen ddrws. Saif bedyddfaen hen ar ein cyfer, a charreg fedd ar ei phen yn y mur yn ei ymyl. Ar y garreg fedydd y mae llewpard rampant,—gallai fod yn rhyw greadur arall, o ran hynny, yn llew neu'n ddraig goch. O gylch y llun anifail y mae'r ymadrodd hwn,—

HIC JACET SEPULTUS
EVANUS SAETHON DE SAETHON
ARMIGER
OBIT XXIII FEBRUARII ANNO DNI 1639.