Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os darllennais yr ysgrif yn iawn, dywed mai "yma y gorwedd yn gladdedig Ifan Saethon o Saethon, yswain; bu farw Chwef. 23, 1639." Nis gwn ddim o'i hanes, ond gwelir iddo gael marw ar fin y Rhyfel Mawr. Y mae'n ddigon tebyg mai o'r gwpan sydd yn y bedyddfaen y bedyddiwyd ef, fel cenhedlaethau o'i flaen.

Y mae pethau dyddorol yn yr eglwys. Y mae yno elor feirch; bu'n dda wrthi i gludo ffermwyr ochrau'r Garn ar hyd llwybrau anhygyrch i dy eu hir gartref. Yn y llofft uwchben y mae cist i gadw cofnodion y festri; y mae yno hefyd efail gŵn a'r dyddiad 1750 arni. Byddai cŵn y boneddigion a'r ffermwyr yn dod gyda hwy i'r eglwys unwaith, a byddai cryn drin ar y cwn weithiau. Pan ddechreuent ymladd, cymerai'r clochydd yr efail gŵn, a gwasgai hi nes yr ymsaethai ei throion cuddiedig allan, er mawr ddychryn i'r cwn a wthid ymaith ganddi. Os na welaist fegin gŵn, ddarllennydd, gwna nifer o groesau, a'r hoelen yng nghanol pob croes yn llac. Rhwyma bennau y croesau wrth eu gilydd, yn un gyfres hir, a bydd gennyt efail gŵn.

Y mae pen yr allor yn llai dyddorol, er mai yn y pen hwnnw y mae'r adeiladwaith hynaf. Y mae cymrawd o Goleg yr Iesu, Ellis Anwyl wrth ei enw, wedi ei gladdu yno er 1724; ac y mae coflech oreuredig yn dweyd am y gogoniant tanbaid y mae wedi mynd iddo.

Ond y mae'n bryd i ni fynd o'r eglwys, gan fod llawer o ffordd eto cyn y byddwn wedi amgylchu'r Garn. Awn at fedd Robert Jones Rhos Lan,—cawn weld ei gartref hefyd cyn diwedd y daith. Y mae'r bedd ym mhen uchaf y fynwent, wrth y mur isel sydd rhyngddi a