Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffordd gul. Oddiyno gwelir fod Llaniestyn mewn pantle hyfryd, a fod y fynwent ar lethr. Y mae tai ar dair ochr iddi. Ymgyfyd y Garn uwch ei phen, a niwl parhaus a welsom ni ar ei chopa. I'r cyfeiriad arall gwelem Fynydd y Rhiw'n codi'n las dros y gefnen. A dyma sydd ar y bedd,—

Er cof am
MAGDALEN,
Anwyl briod y Parch. Robert Jones,
Ty Bwleyn,
Bu farw Ebrill 25ain 1813,


Mewn lletty gwely gwaelwedd—yn dawel
Diau mae'n gorwedd;
Cyfyd o lwch y ceufedd,
O lun gwael yn lân ei gwedd.


Hefyd y Parch. ROBERT JONES,
Ty Bwlcyn.
Hunodd yn yr Iesu Ebrill 18fed 1824
yn 84 mlwydd oed.
Wedi bod yn pregethu yr efengyl am dros 60ain
ml. yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd.


Gorweddaf, hunaf mewn hedd—fer ennyd
I fraenu mewn llygredd;
Er y llwgr a'r hyll agwedd,
Onid gwych fydd newid gwedd.

Pwy ysgrifennodd Gymraeg gloewach? Pwy ymdrechodd fwy dros addysg Cymru yn amser yr anwybodaeth mwyaf? Erys ei Ddrych yr Amseroedd yn un o glasuron Cymru tra'r iaith