Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn cof. Gresyn fod ei Leferydd yr Asyn a'i freuddwydion yn anhysbys hyd yn oed i rai sy'n gwybod yn dda am Rawn Sypiau Canan.

Heddwch i'r pregethwr ffyddlon a'r hanesydd campus,—un welodd ddrych amseroedd rhyfedd iawn.

Ond ein prif neges oedd ymweled â chartref Ieuan o Leyn. Tybiem o'r pentref ei fod rhyw hanner y ffordd rhyngom a chreigiau'r Garn. Cawsom lwybr troed oddiwrth yr ysgol, a dechreuasom dynnu i fyny hyd weirgloddiau a ffriddoedd. Collasom y llwybr yn fuan; ac oni bai mai haf oedd, gallasem fynd i byllau neu ffosydd. Ond yr oedd y ty bychan tlws yn y golwg o hyd, a'r coed y tu hwnt iddo, a'r Garn fawr ddifrifddwys yn ei chymylau o hyd. Yr un oedd y blodau bach siriol a'r blodau welir o gylch cartref pob bardd Cymreig, byddaf yn meddwl fod rhai blodau a beirdd yn mwynhau yr un math o awyr a gwlad. Wrth ddringo i fyny dychmygwn weled y plentyn

"Pan wrth y ffrwd yn eistedd
I wylio'r pysgod mân,
Neu'n rhedeg dros y werdd-ddol
Yn uchel iawn ei gân."

Heibio'r goeden ddraenen gysgododd Ieuan ymhell cyn iddo ddweyd beth sy'n hardd, daethom at y ty. Y mae wyres i Ieuan yn byw yno'n awr, ac yr oedd ŵyr ar ymweliad â'r lle y diwrnod hwnnw. Cawsom bob croesaw a charedigrwydd,—yn wir, ni welais yn unlle bobl mor drwyadl garedig a phobl Lleyn. Y mae'r olygfa o Dy'n y Pwll yn un sy'n esbonio llawer ar fywyd Ieuan o Leyn. Draw o'n