Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaenau yr oedd Porth Neigwl, a Phen Cilan a Mynydd y Rhiw o bobtu iddo. Ar y gwaelod odditanom yr oedd Llaniestyn dawel, fel pe mewn mwy o bant na'r môr. Rhwng y llan a'r môr yr oedd gwlad fryniog, a choed duon, ac ambell adeilad hyd—ddi.

"A oes rhywbeth enwog yn y fan acw?" ebe fi.

"O oes," oedd yr ateb, "y mae ysgol Botwnnog yn y fan acw, a J. R. Williams."

Cerddodd Ieuan o Leyn lawer i ysgol Botwnnog, yr ysgol sydd wedi bod o gymaint bendith i fechgyn Lleyn, a hawdd oedd iddo gyfeirio adre at y Garn o bob man. Ymgyfyd y Garn Fadryn yn fawreddog y tu ol i Dy'n y Pwll, ac yr oedd heulwen dlos yn chware ar ei phen rhwng y cymylau. Y mae'n ddigon tebyg mai'r cwmwl acw ddenodd sylw'r plentyn yn un o'r pethau cyntaf; a phan adroddodd adgofion ei febyd, daeth niwl pen y Garn i'w feddwl yn gyntaf peth,—

"Fe wisga'r cwmwl gwanllyd
Wrth gilio lawer gwedd,
Bydd weithiau'n wgus hynod,
Ac yna'n llawn o hedd;
Gwna weithiau wisgo mantell
Orbruddaidd galar du,
Pryd arall chwery'r wawrddydd
O gylch ei odrau'n gu."

Dyna ddarlun cywir o'r Garn fel y gwelsom ni hi. Edrychodd Ieuan oddiar ei bron i'r pellter draw ac i ddyfodol ei fywyd. Wrth edrych ar y môr pell, ac wrth feddwl am ras yr efengyl,