Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daeth ato awydd mynd draw i adrodd am yr Iesu wrth frodorion Demerara,—

"Pan hwylus ddringwn ochrau
Carn Fadryn, bryn y bri,
Er gweld y llongau'n nofio
Ar wyneb glas y lli,—
Gwnai llygaid craff y nefoedd
Fy ngwylio bob rhyw gam,
A'i llaw fy hoff amddiffyn
Fel tyner law fy mam.

"Er colli rhiant hawddgar,
Er claddu mam a thad,
Er croesi dyfnion foroedd
I bell estronol wlad;
Er crwydro drwy beryglon,
Er mynd o fan i fan,
Ces gwmwl Duw yn gysgod,
A'i ras yn werthfawr ran."


Wedi golwg unwaith wedyn ar y cymylau ar y Garn,—"Beth sy'n hardd? Y cwmwl goleu,—ar Graig Bwlch y Groes, ar y pentref a'r fynwent, ac ar y môr draw, troisom i lawr yn ol. Ym Medi 1872 yr oedd Ieuan o Leyn ar ymweliad â'r lle hwn, ac yn dwedyd,—

"Mae popeth yma'n debyg
Ag oedd flynyddau'n ol,
Y defaid borant ar y bryn,
A'r gwartheg ar y ddol.

"Mae'r bechgyn yn y pentref
Yn chware'n llawn o stwr,
A'r eneth fwyn wrth odro'r fuwch,
Yn meddwl am gael gŵr.