"Caf wrando yr emynnau
A ddysgais gynta erioed,
Pan oeddwn yn fachgennyn llon
Rhwng pedair a phump oed."
Ac wrth weled y fynwent odditano, yn ddelw
o orffwys y rhai lluddedig, lleddfodd ei gân,—
"Mynd heibio fel yr afon
Mae dyddiau goreu'r oes,
A dweyd am Ieuan wneir cyn hir,—
Ei einioes yntau ffoes."
Gan gydweled ag Ieuan fod y byd yn
llawn o degwch a'r nef yn gwenu'n gu,"
troisom ein cefnau ar Laniestyn dawel, ac ail
gychwynasom ar ein tro o amgylch y Garn. Yr
oedd y mynydd mawr yn newid o hyd, a buom
yn prysuro i fyny hyd gwm oedd rhyngddo a
bryniau sy'n sefyll rhyngddo a'r môr. Cawsom
ennyd o gwmni un o feibion Moses Jones,—gŵr
a goleu diddan yn chwareu yn ei lygaid, a
danghosodd i ni gyrrau'r wlad. Yn union o'n
blaenau yr oedd agorfa yn y mynyddoedd, a
gwelem Fynydd Nefyn yn codi'n las dros wastadedd.
Arosasom beth ar gyfer Ty Bwlcyn,
wrth draed y Garn, ond nid oedd gennym amser
i fynd i mewn i weled hen gartref Robert Jones
Rhos Lan. Melus oedd syllu ar y fan yr ysgrifennwyd
"Drych yr Amseroedd" ynddo.
Dyma ni wrth gapel y Dinas,—un wnaed yn adnabyddus
ymhell o Leyn oherwydd ei gysylltiad
â Moses Jones,—ac yn fuan iawn gwelem y
môr.
Am ennyd anghofiasom y Garn, a chawsom olygfa ar wastadedd a môr nad anghofiaf hi'n