Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hir. Wrth deithio hyd ochr y Garn ac i lawr at Felin Madryn, yr oedd gwastadedd cyfoethog fel meusydd canolbarth Lloegr odditanom. Ar ei fin yr oedd Porth Dinllaen, lle tawel hyfryd yn awr, ond lle welir yn nychymyg llawer un mor brysur a Chaer Gybi neu Lerpwl. Dros y môr gwelem ymylon Mon, i fyny at Gaer Gybi. Ar yr ochr arall ymgodai Carreg y Llam a'r Eifl megis o'r môr. Ymagorodd yr olygfa o'n blaenau ar unwaith, yng ngogoniant lliwiau tyner hwyr brydnawn ym Medi.

Yr oedd cartref un arall o feibion Carn Fadryn heb i ni ei weled. Gwyddem fod unigedd a thristwch ar gartref gwag ac anrheithiedig Syr Love Jones Parry. Yr oeddwn wedi darllen hanes gwerthu llestri arian yr hen deulu i estroniaid yn Llundain. Clywswn fod ei ystafell wely eto fel yr oedd pan gyrhaeddodd hi i farw—ei glud gelfi fel y gadawodd hwynt pan wysiwyd ef o flaen ei Farnwr. Na chofier ei feiau, er lliosoced oeddynt, efe oedd un o arwyr cyntaf gwerin ddeffroedig Cymru. O fysg tirfeddianwyr hynod, hyd yn oed ymysg eu rhyw, am eu gorthrwm ac am eu gelyniaeth at ryddid ac addysg, cododd ef i arwain gwerin i fuddugoliaeth. Bu'n anwylyd sir Gaernarfon; ac y mae enw "Syr Love," er pob ffaeledd, yn anwyl eto. Meddai gyfoeth, athrylith, a chariad gwlad,—ni fu neb erioed yn gyfoethocach; ac ni fedrodd neb wneyd ei hun yn fwy tlawd. Heddyw y mae llawer yn cofio am y fuddugoliaeth heb son am ei enw, ac ni ŵyr neb pa un ai gwesty ynte cartref rhyw ddieithr ddyn fydd cartref y rhai olrheinient eu hachau i Lywelyn Fawr.

Ond dyma ni mewn coed hyfryd, a'r dail yn dechreu troi eu lliw yn y fan gysgodol