Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dawel. A chyn i mi gael amser i sylweddoli ymhle yr oeddwn, wele blas Madryn o'n blaenau. Gwelais lawnt yn disgyn yn raddol oddiwrth wyneb y plas at y ffordd, a thybiwn mai dyma'r lle tecaf a welais erioed. O flaen y plas y mae rhag-adeilad, a'r drws i'w weled trwy fynedfa. Y mae grisiau'n arwain i fyny at y fynedfa hon, ac y mae'r mwswgl a'r glaswellt yn cael tyfu hyd—ddynt yn ddiwahardd. Y tu ol i'r rhag—adeilad ymestyn gwyneb hir y ty, tŵr yn y canol, ac aden o bobtu. Y mae popeth ar ddull henafol,—y twll baredig yn y drws i siarad drwyddo, a lle i'r saethyddion,—ond gwelir fod yno le i holl gysuron oes heddwch a llwyddiant. Peth prudd iawn ydyw gweled cartref mor gysurus yn wag, a'r aer olaf wedi marw. Prudd yw meddwl am ddiwedd teulu anrhydeddus, hyd yn oed pe diweddai fel y ffordd Rufeinig enwog honno,—mewn cors. Prin y gwelais beth pruddach erioed na chartref fu mor anwyl i werin Cymru wedi mynd mor lwyr ddiobaith.

Dros y plas gwelir copa Carn Fadryn. Bu agos i mi ddychrynnu pan godais fy ngolwg ati,—edrychai mor agos, fel pe'n gwylio Madryn, ac yr oedd cymylau fel gwisgoedd gweddw dros ei hysgwyddau. Am ennyd, bum yn ansicr pa un ai drychiolaeth ynte'r Garn oedd. Temtir fi i gymharu dyheadau Ieuan o Leyn a Syr Love wrth edrych arni pan yn blant,—mae ei gwedd yn fwy cuchiog uwchben bwthyn Ty'n y Pwll nag wrth ben plas Madryn,—ond ni waeth i mi heb fynd dros yr hen ystori am fendithion tlodi ac am felldithion cyfoeth.

O wyneb y plas gwelir coed tewfrig, ond o un cyfeiriad. Ac yn y cyfeiriad hwnnw ymgyfyd