Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Eifl draw yn y pellter, a'u glas gwan yn hyfryd i'r llygaid trwy wyrddlesni'r coed. Ac i lawr odditanodd y mae Nefyn a'i morfa.

Gadawsom y plas gwag, ac aethom ymlaen. Yr oeddym erbyn hyn wedi bod o amgylch y Garn, yr oedd Nefyn odditanom, yr Eifl ar ein de, ac yr oedd ein gwynebau tua Phwllheli. Arweiniai'r ffordd ni drwy goed, ond yr oedd y môr a'r gwastadedd yn y golwg rhyngddynt o hyd. A phan ddaethom o'r coed i ffordd uchel fynyddig, gwelem yr Eifl, yn fawreddog lonydd, a niwl goleuwyn ar eu pennau. Yr oedd yn dechreu nosi erbyn hyn, ac yr oedd y dyffryn odditanom yn mynd yn aneglurach, a chopau pigfain yr Eifl yn duo rhyngom a'r awyr.

Daethom yn ol i ffordd Pwllheli, a gwelem Garn Fadryn o'n holau. Yr oeddym wedi bod o'i hamgylch ac wedi gweld hyfrydwch Lleyn. Oddiyno i Bwllheli ni siaradsom ond ychydig, nid am nad oedd gennym ddim i'w ddweyd, ond oherwydd fod ein meddyliau'n llawn.