Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV. HARLECH

YR oedd ein ffordd o'r Penrhyn tua Harlech yn rhedeg yn llinell union hyd wastadedd glan y môr, ac nid peth welir bob dydd yw ffordd union ym Meirionnydd. Ar y llaw dde yr oedd Môr y Werddon; ar y chwith yr oedd y mynydd yn codi'n serth, weithiau'n llethrau coediog, dro arall yn greigiau. Unwaith gwelsom fryncyn bychan yn codi uwchlaw gwyneb gwastad y morfa. Dywedodd rhywun oedd yn cyd-deithio â ni mai ynys oedd y bryncyn hwnnw unwaith. Troais at wladwr oedd yn eistedd yn yr un cerbyd, a gofynnais enw'r ty oedd yn ymnythu yng nghesail y bryn ar y morfa.

"Glasynys," ebe yntau.

"Ai dacw gartref Bardd Cwsg?"

"Ie, yr oedd Elis Wyn yn byw yr ochr arall i'r bryn acw. Eu beudy nhw ydi'r beudy welwch chwi ai mynydd i fyny fan acw; ac mi fyddant yn dweyd y byddai'r Bardd Cwsg yn mynd i fyny ffordd acw'n aml."

Ni synnwn i ddim nad dringo'r llethr serth acw wnaeth ar ddydd haf hir-felyn tesog, pan