Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddaeth ei drwmgwsg ato, gyda'r holl weledigaethau rhyfedd hynny ar ei adenydd esmwyth. Ond dyma'r tren yn arafu, a'r rhan fwyaf o honom yn rhedeg at y ffenestr i weled Castell Harlech. Yr oedd yn ddigon hawdd ei weled, gwgai wrth ein pen.

Saif gorsaf Harlech, adeilad bychan digon anolygus, dan y Castell. Yn ochr y môr y mae morfa gweddol eang, ond y mae tywod-fryniau yn cau'r môr o'r golwg. Wedi i'r tren adael yr orsaf ar ei ffordd i gyfeiriad yr Abermaw, codasom ein llygaid i weled y castell. Ymgyfyd ei graig yn syth o fin y morfa, ac o bell y mae fel brân ddu neu ddarn o felldith rhyngom â'r goleu. Gwelem o'r orsaf ddau dŵr a mur rhyngddynt, a thŵr arall yn edrych dros y mur. Ac o dan y rheini yr oedd llethrau creigiog, rhai yn graig ddaneddog a rhai gyda gorchudd o laswellt. Gyda godreu'r graig yr oedd mur arall, a dau dŵr bychan, fel pe'n cerdded ymlaen yn herfeiddiol o flaen y tyrrau mawr. Yr oedd yr olygfa'n fawreddog, ac yn brydferth hefyd. Yr oedd glaswellt y mynydd yn dlws hyd y llethrau, a'r eiddew yn ymgripio dros lawer carreg hagr. Yr oedd ambell goeden griafol hefyd wedi cael lle i'w gwreiddiau yn agenau y graig; ac yn gwyro mewn lledneisrwydd prydferth ac mewn perffaith anwybodaeth mai ym mangre creulondeb a chyffro yr oedd ei dail yn dawnsio mewn heddwch yn awel yr haf. Yng nghanol yr olygfa, ger yr hen gastell marw,—ond marw a gwg haearnaidd ar ei wyneb,—yr oedd un peth byw iawn. Disgynnai rhaeadr ewynnol i lawr oddiar ddibyn y graig, gan redeg hyd agen ag ymylau