Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glaswelltog iddi, cyn ymlonyddu ar y morfa. Boddai ei swn y su wan ddeuai o'r mor dros y morfa.

Y tu hwnt i'r castell ymgodai'r mynyddoedd Gwelem goed a rhedyn, ambell gae gwyrdd, a gwyneb gwyn—galchog ambell dŷ. Ar ol y castell, y peth nesaf dynnodd fy sylw oedd capel mewn lle gwyntog ac ystormus iawn. Gofynnais i wr oedd wedi dod i'r orsaf i holi am nwyddau,—capel pwy oedd y capel.

"Nid ein capel ni ydyw hwnacw, ond capel y Bedyddwyr Albanaidd. Mi glywsoch son am John Ramoth Jones?"

"Mi glywais son am John Richard Jones o Ramoth"

"O, mae'n debyg eich bod chwi yn un o honynt. Y maent yn addoli yn y fan acw fel yr oeddynt yn amser Robert Morgan a John Ramoth. Mae'r dynion a'r merched yn eistedd ar wahan. Mae'r merched yn eu hetiau silc, y rhai priod gyda'r cap gwyn o amgylch eu pen, a'r rhai di—briod a ruban piws ar eu bronnau. 'Ch'di' a chdithau' fyddant yn ddweyd wrth eu gilydd hefyd. Onid felly'r ydych chwi?" meddai wrth borter safai yng nghlyw'r ymddiddan.

"Ie, 'r hen bobol," ebe'r bachgen.

Gwelwn yn eglur y cawn ddigon o wybodaeth ddyddorol yn Harlech. Cymerais fy llety dan gysgod y castell, ac yn ei olwg. Y peth cyntaf a wneis tra'r oedd pobl y ty yn parotoi bwyd, oedd darllen mabinogi Branwen ferch Llyr. Tybiwn, wrth ddarllen y fabinogi, fod y môr yn dod at droed y graig yr adeg honno, ac y gallai mai ar y fan yr eisteddwn i y safai 'r