Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth y bwyd cyn i'r hen wr orffen esbonio ei fod yn dod o'r un ardal a minnau, a'i fod yn canu tonau gyfansoddodd fy nhad, a'i fod wedi canu llawer mewn cyngherddau drwy Gymru, a fod ei fryd yn awr ar fynyddoedd yr Andes. Wedi'm nawnbryd, cychwynnais innau allan, gan feddwl dringo'r ffordd serth i'r castell a'r dref fry. Deuais o hyd i hen wr bonheddig oedd yn araf ddringo'r allt o'm blaen. Gan fod y llwybr mor serth, arhosem yn fynych i gael stori newydd, ac i gael golwg ar y môr oedd yn ymddisgleirio fel arian byw. Pan glywodd fy nghydymaith mai o Eifionnydd y deuais, gofynnodd a oeddwn wedi darllen gwaith Dewi Wyn. "Yr wyf yn ei gofio'n dod i aros i dŷ Edward Morgan y Dyffryn," meddai, "a minnau yn gwarchod gydag ef pan oedd y teulu wedi mynd i'r capel. Yr oedd yn cerdded yn wyllt yn ol ac ymlaen hyd yr ystafell. Y mae pobl y ty yma yn rhai caredig hynod,' meddai, 'ond wyddoch chwi beth? Mi fedrwn edrych ar bob un o honynt yn y tân yna. Y mae fy nerves i wedi ffwndro.' Ac mi ofynnais innau iddo ai nid efe oedd wedi canu am elusengarwch. 'Ie,' meddai, 'ond yr oeddwn i'n ddyn hollol wahanol yr adeg honno.'" A llawer hanesyn cyffelyb glywais ar yr allt am lenorion Cymru.

Adroddodd hanes ei daith gyntaf i Lundain tuag 1830. Yr oedd yno yng nghanol terfysg etholiadol 1832. Yr adeg honno yr oedd swyn y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon wedi colli ei nerth; anghofiodd y bobl am ogoniant Trafalgar, a Thalavera, a Waterloo; ond nis gallent anghofio y prisiau uchel, yr arian prin, yr yd drwg a drud, a holl ganlyniadau alaethus