Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyfel. Torasant eu delwau mewn llid, y rhai oedd fwyaf poblogaidd gynt oedd gasaf yn awr. Arweinydd y dydd oedd Duc Wellington, y "duc haearn" a fynnai yrru popeth ymlaen yn y dull arferol drwy nerth braich ac ysgwydd a chledd a bidog a magnel. "Rhaid i lywodraeth y brenin fod mewn grym" meddai wrth amddiffyn gormes y buasai gormes Napoleon yn well nag ef. Ond yr oedd ei ddydd yntau ar ben, a llais crynedig gwrthryfel yn codi'n ysgrech. "Gwelais Dduc Wellington," ebe'm cydymaith, "yn High Holborn, a'r dyrfa yn ei luchio ag wyau drewllyd."

Yr oedd Bil 1832,—"Deddf Rhyddfreiniad y Bobl,"—o flaen Ty'r Cyffredin. Arweinydd y bil oedd Lord John Russell. Ei brif wrthwynebydd oedd Syr Francis Burdet,—tad y Lady Burdet—Coutts. Yr oedd y gŵr amryddawn a phenboeth hwn wedi bod yn un o brif arweinyddion y diwygwyr. Ei dreial ef achosodd y prif newid yn neddfau athrod. Yr oedd haid o feirchfilwyr hanner meddwon wedi rhuthro ar dyrfa heddychlawn ym Manchester, ac ysgrifennodd Syr Francis Burdet lythyr at ei etholwyr i ddynoethi'r traha. Rhoddwyd ef ar ei brawf am athrodi'r Llywodraeth; a gwrthodwyd iddo gyfiawnhau ei hun trwy ddangos mor anynol oedd ymddygiad y Llywodraeth. Caeodd ei ddrws, a bariodd ei ffenestri, y tro hwn neu ryw dro arall; a phan fedrwyd torri ei ddrysau, cafwyd ef a'i fachgen ar ei lin, yn dysgu egwyddorion Magna Carta. Yr oedd y treial mor anghyfiawn fel y newidiwyd y gyfraith. Yn ol Deddf Lord Campbell gellir cyfreithloni athrod yn awr ar ddau amod,—(1) ei