Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod yn wir, (2) ei fod wedi ei gyhoeddi er lles y cyhoedd. Yr un gŵr egniol fu'n ceisio pasio y naill fil Diwygiad ar ol y llall hefyd.

Erbyn 1832 yr oedd sel Syr Francis Burdet wedi oeri, ac yr oedd yn barod i amddiffyn y cam a gawsai gynt. "Gwelais ef yn codi ar ei draed yn y Senedd" ebe'm hen gydymaith ar riw Harlech. "Clywaf ei eiriau y munud yma,—There is nothing so hateful as the cant of liberty.' Cododd Lord John Russell ar ei ol, y fo oedd yn gofalu am y Bil wyddoch. Yr ydw i fel pe'n clywed ei lais ynte. 'There is one thing more hateful than the cant of liberty,' meddai, 'and that is the recant of it."

Ni chlywais ac ni ddarllennais yr hanesyn hwn yn unlle arall. Gwr athrylithgar oedd yr adroddydd, yn dod o deulu hoffus ac adnabyddus; bum yn gwrando mewn boddhad wedi hynny, mewn cyfarfodydd crefyddol a pholiticaidd, ar ei feddyliau byw ac anibynnol. Dywedodd lawer o bethau ereill am dano ei hun wrthyf ar yr allt, pethau fu'n broffwydoliaeth i mi, a phroffwydoliaeth chwerw iawn. Pe gwelwn ef yn awr, gwn sut i'w holi. Ond ni chaf ofyn cwestiwn iddo mwy.

Yng nghilfachau'r ffordd droellog aem heibio aml dy hen ffasiwn ar lan aber o ddwfr gwyllt, ac uwch ein pennau gwelem res o dai prydferth yn edrych ar y môr. Ac o'r diwedd, yn dra lluddedig, cyrhaeddais y dref ar ben y graig. Y mae'n anodd cael lle difyrrach, ac y mae llu o adgofion hanes yn perthyn iddo.

Y mae'r castell erbyn hyn yn ddi—aelwyd a di—breswylfod. Eto nid yw ef ond peth cymharol