Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

newydd yn hanes Harlech. Tua 1284 wedi cwymp Llywelyn, yr adeiladwyd ef. Ei waith oedd sefyll gyda'i gymdeithion o'r un oed, — Cricieth, Caernarfon, Beaumaris, a Chonwy,—i wylio noddfa olaf anibyniaeth Cymru, rhag i'r ysbryd Cymreig adfywhau. Mae iddo hanes mwy llawn a rhamantus nag odid gastell yng Nghymru. Heriodd Owen Glyndŵr am hir, ond cymerwyd ef. Heriodd frenin Lloegr wedyn, ond medrodd hwnnw ddod i mewn, a chymeryd merch Owen Glyndŵr a'i phlant yn garcharorion. Rhoddodd nodded i wraig anffodus Harri'r Seithfed, a bu'n olaf i ddal ei dir dros deulu Lancaster. Dan ei gysgod, hyd heddyw, y cyhoedda sirydd Meirionnydd pwy yrrir i'r Senedd i gynrychioli ei gwerin.

Y mae Harlech yn llawer hŷn na'r castell. O ba le, tybed, y daeth tylwyth y "brain," a beth oedd eu nodweddion? Pa ystyr sydd i ganu adar Rhiannon? Y mae'r adgofion bron anhyglyw sydd ynglŷn â'r rhain yn ehedeg ymhell iawn yn ol. A phryd y clywyd gyntaf seiniau cynhyrius "Gorymdaith Gwyr Harlech?" Ai milwyr Llywelyn, ynte Glyndŵr, ynte Harri Tudur a'i canodd hi?