Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wrth "ŵr bynheddig," rhif liosog, "byddigions,"—yn y Bermo y meddylir gŵr yn siarad Saesneg, yn gwisgo clos pen glin, yn darllen papur newydd, ac yn ceisio mwynhau ei hun. Yn eu plith eu hunain geilw'r gyrwyr a'r cychwyr ef weithiau'n "bysgodyn" hefyd. Dywedai gyrrwr wrthyf unwaith, gan gyfeirio fy sylw at gwch rwyfid gan un cychwr—"Dacw Owan Sion wedi câl pysgodyn." "Ym mhle gwelwch chwi'r pysgodyn?" ebe finnau. "Dacw fo, ym mhen ol y cwch." Nid oedd yno ond Sais tew, yn eistedd mor dawel a phe buasai'n ddelw llareidd—dra.

Ychydig o bobl y wlad, rhagor a fyddai, sydd yn y Bermo. "Byddigions" sydd yno yn awr, "byddigions" ar y tywod yn gwrando ar "fyddigions" yn nad-ganu ac yn lluchio eu heglau o'u cwmpas, "byddigions" ar y stryd, "byddigions" yn y cychod, "byddigions" yn yr orsaf, "byddigions" ymhob man ond yn y capel. Mae pobl y Bermo yn naturiol garedig, ac nid oes bosibl cael gwestywyr gonestach na mwy gofalus, a pheth rhyfedd ydyw fod eu hysbryd a'u hiaith mor Gymreig tra'n mwynhau cymdeithas "byddigions" am rai misoedd o bob blwyddyn. Llenyddiaeth y Bermo, tai'r Bermo, cychod y Bermo, er mwyn y "byddigions," erbyn hyn, y maent oll yn bod. Nid oes gennyf air, cofier, i'w ddweyd yn erbyn y "byddigions." Gwir fod llawer o honynt wedi gadael eu h ar eu holau, ac yn dynwared llediaith werinaidd Birmingham. Ond ni waeth beth adawsant ar eu holau os daethant a'u pwrs gwyliau; ac er cymaint gwahaniaeth sydd rhwng Saesneg a Saesneg, y mae delw'r frenhines