Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr un fath ac aur o'r un ansawdd o ba boced bynnag y dêl.

Bum innau yn y Bermo, yn nyddiau Medi, a blinais ar y "byddigions" yn lân. Gwell gennyf bobl garedig frawdol y Bermo na hwynt o lawer, ac eithrio rhyw deulu neu ddau sy'n ceisio dynwared dull eu "lojars" o fyw. Y diwrnod cyntaf, pan godais yn y bore,—wele'r môr o flaen fy ffenestr, yn uchder ei lanw gogoneddus, a thybiais ei fod yn dod a iechyd a gorffwys gydag ef o rywle o wledydd pell. Croesaw, hen donnau anwyl, yr wyf fel pe'n adnabod pob un o honoch,—

"Mae gan yr enaid gydymdeimlad syn
A swn eich pell—ddisgyniad, donnau per,.
A'ch adsain wan a gollaf ynnof f'hun
Ar ryw bellderoedd o feddyliau prudd
A redant hyd fy anfarwoldeb pell."

Anodd ydyw meddwl meddyliau fel hyn yn hir, oherwydd wele'r "byddigions" yn dechreu cymeryd meddiant o lan y môr. Mae rhai yn cario llian ar eu breichiau, llian ymsychu, a gwnant hynny mor wych rodresgar ag y gwelais hwy'n gwneyd yn restaurants Llundain a shaving saloons Birmingham. Dacw lusgo hen blatfform i'r traeth sy'n melynu yn yr haul wedi i'r don fod yn chware drosto. Dacw ddyn yn esgyn arno, dacw redeg o bob cyfeiriad, ac ymdyrru o'i flaen. Wele ef yn rhoi ysgrech, yn rhoddi hergwd i un goes, yna hergwd i goes arall; wele ef yn rhoi un law ar ei ochr, ac yna yn ei gyfeirio i fyny,—O fel y mae'r byddigions yn hiraethu, ar y traeth barbaraidd hwn, am y Little