Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Slum Music Hall. Mae'r môr yn cilio, mewn ffieidd—dod, ac yn cras ruo ei ddirmyg o'r dynionach a'r merchetos ynfyd. Cyn hir y mae hanner gwlad o dywod o'm blaen, a'r môr yn bell bell. Nid oes yma orffwys i glust na llygad; mae eithafion dau le mwyaf anifyr y ddaear wedi ymgymysgu,—tref or-boblog a diffaethwch, mangre haint a chartref newyn.

Onid ellir dianc i rywle nes y bo'r "byddigions" wedi troi adre? Maent yn mynd yn lluoedd heddyw; gwelaf "wisio gwd bei," chwedl pobl y Bermo, ar lawer carreg drws. Gallwn fynd draw hyd y forlan yn ddigon pell o swn y "canu," a chael rhyw Gymro gwladaidd, diwylliedig, ac yr wyf bron a chredu fod gwladaidd a diwylliedig yr un peth,—i ymgomio am ryw fardd ac i deimlo fel

"O flaen efrydion maith y môr,
A'r golwg ar ei ddyfn di—ddôr,
Ymloewa bod i'w ddyfnder pur
A'i anfarwoldeb ynddo'n glir,
Ymbura'r enaid trwyddo i gyd
Mor bell i maes o dwrf y byd,
Nes derbyn ar ei ddyfnder gwell
Ser tragwyddoldeb a'r dydd pell."

Neu, oni allem gael cerbyd, a gyrru i rywle i bellderoedd rhyw gwm mynyddig, lle na chlywem ond murmur ambell ffrydlif, a distawrwydd y mynyddoedd,—ni chredaf byth nad oes rhyw fath o ddistawrwydd y gellir ei glywed ar y mynyddoedd. Dyna Ddrws Ardudwy, neu Fwlch Tuthiad, neu Dy'n y Groes. Ty'n y Groes,—nid oedd gennyf ond adgof dyddiau pell am y lle hwnnw, gadewch i ni fynd yno.