Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cawsom addewid am gerbyd i redeg gyda min afon Mawddach,—rhyw ddeuddeng milldir o ffordd, i Dy'n y Groes. Cawsom gwmni hefyd, er nad oeddym wedi bargeinio am hynny; yr oedd hanner dwsin o "fyddigions" yn mynd i'r un cyfeiriad. Yr oeddynt hwy yn nhu fewn y cerbyd; ac yr oeddym ninnau ar y pen blaen gyda'r gyrrwr, ac nid oedd gormod o honom i fod yn gysurus.

Wrth basio'r orsaf, gwelem dyrfa ffwdanus, yn gwau trwy eu gilydd, o bobl yn mynd oddiar eu gwyliau, ac adre. Dywedwyd llawer am golliadau pobl y ffordd haearn, ac nid heb achos; yr wyf wedi treulio llawer hanner awr yn ofer yn y tren yn y Junction, gan glywed rhyw swyddogyn botymog yn gwaeddi "All right" bob pum munud, a minne'n gwybod nad yw'r tren yn osio cychwyn. Ond y mae bai mawr ar y cyhoedd hefyd, er fod yn rhaid i aelodau seneddol ac ereill gymeryd yn ganiataol fod "y cyhoedd" yn berffaith. Beth feddyliech chwi am ymddygiad y cyhoedd y bore hwnnw? Yr oedd pawb yn dod a'i glud enfawr i'r orsaf ar unwaith, pawb eisieu ticed ar unwaith, pob un fel pe'n meddwl fod ffyrdd haearn y byd wedi eu gwneyd ar ei gyfer ef yn unig. Ac oherwydd y diffyg meddwl hunanol hwn, yr oedd y tren yn colli hanner awr ym mhob gorsaf, a'r "Cambrian," druan, yn cael mwy o fai nag erioed am gamdrin y cyhoedd.

Yr oedd ein cerbyd ni a'r tren yn cyd-gychwyn. Teimlem ein bod yn meddu y fantais fawr feddai'r hen ddull o drafaelio ar y newydd,—yr oeddym ni'n carlamu drwy heol y Bermo, a phopeth harddaf yn y golwg; tra yr