Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn rhaid i'r tren lithro ymaith drwy'r cefn, a chollasom olwg arno, fel pe buasai dwrch, mewn twll yn y ddaear.

Wrth gael ein golwg gyntaf ar afon Mawddach, hawdd iawn y gallasem benderfynu, dan swyn yr olygfa, mai mewn cerbyd, yn yr hen ddull, y teithiem byth. Odditanom yr oedd yr afon yn llawn, a throsti gwelem ochrau coediog Arthog, a thrumau'r Gader, fel uchel gaer, yn codi y tu cefn iddynt. Ar y chwith codai llethrau grugog eithinog, a'u lliwiau coch a melyn tanbaid yn cystadlu à lliwiau tynerach gwyrdd a glas yr ochr bell.

Ac mor lawn o adgofion i'r Cymro darllengar yw'r holl fro, o ben Cader Idris yn y fan acw, gyda'i hen draddodiad am gwsg yr awen, at Lwyn Gloddaeth yn ein hymyl, cartref bardd nad yw ei wlad eto ond wedi cael prin amser i weled ei werth. Toc daw Marian Dolgellau i'n golwg, gyda'i adgofion am Ddafydd Ionawr; a thu hwnt iddo, ond odid, cawn gipolwg ar y dyffryn coediog fu'n gartref i Ieuan Gwynedd.

O ie, y "byddigions" oedd yn y cerbyd y tu ol i ni,—fu ond y dim i mi anghofio popeth am danynt wrth syllu ar ardderchawgrwydd afon Mawddach. Tri thailiwr o Wolverhampton oeddynt, a'u tair cariadau. Pobl bach hoffus ddigon oedd y chwech, a mwynhaent eu hychydig ddyddiau gŵyl yn llawer mwy addysgiadol na'r rhai oedd yn gwylio coesau'r canwyr gwagedd ar y tywod. Rhoddai y gyrrwr iddynt hwy Saesneg a'u syrio i fyny ac i lawr; rhoddai i ninnau Gymraeg a charedigrwydd cartref. Peth difyr i mi oedd clywed beth ddanghosid i'r "byddigions." "There, sir, is the Giant's