Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Face, sir," ebai, gan gyfeirio ei chwip at amlinell crib y mynyddoedd. "We are now, sir, passing through the Fiddler's Elbow, sir," meddai wrth redeg am drofa droellog yn y ffordd.

Druan o'r "byddigions!" Daear, a daear yn unig ydyw Cymru iddynt hwy. Nid yw ei phrydferthwch ond prydferthwch pridd. Iddynt hwy, nid oes iddi hanes nac adgofion. A dyma yrwyr y Bermo yn dychmygu enwau iddynt. Iddynt hwy y mae Traddodiad a Hanes yn fud.

Nid wyf yn eu beio. Deuant hwy i'r Bermo i dreulio eu gwyliau byrr, yr ychydig ddyddiau gânt ymysg dyddiau gwaith diddarfod y flwyddyn. Ond yr ydym ni i'n beio,—am ein gwaseidd-dra, am ein llwfrdra, am ein diffyg cydnabyddiaeth â hanes ein hardaloedd ein hunain. Dowch i Gymru a chewch genedl o bobl yn ceisio eich boddhau, gan gredu mai Sais ydych, trwy geisio eich dynwared, a chadw eu gwlad eu hunain o'r golwg. Ewch i'r Alban neu i'r Iwerddon, ac yno cewch bobl yn ymorfoleddu yn hanes eu tadau, a hwnnw a adroddant wrthych. Yng Nghymru ceisir dysgu Sais i ddirmygu'r gweinieithwyr sy'n ceisio dangos iddo. mewn gair a gweithred, mai efe yw arglwydd pawb yn yr Alban ceisir dangos iddo, er cymaint feddylio o hono ei hun, nad yw ef neb. Os daw rhyw ddydd cof am Wallace neu Bruce ymysg y dyddiau yn yr Alban, bydd pob dosbarth, gwreng a bonheddig, yn ei ddathlu. Ond yng Nghymru, a oes rhywun yn galaru ar ddydd cwymp Llywelyn, neu yn cofio am seren Glyn Dŵr? Edrychir ar ddewrion eu gwlad