Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan ein huchelwyr fel pe byddai son henwau'n deyrn-fradwriaeth; a phan ddeffrôdd y werin, oni anurddwyd adeg coffa arwr trwy waith y mân sectwyr yn ceisio penderfynu i ba sect, a'r sectau hynny, ysywaeth, heb eu geni yn ei amser ef,—y perthynai? Dywedir i un o'n haelodau seneddol ofyn yn ddiweddar a yw Llywelyn y Llyw Olaf yn fyw yn awr,—nad oedd ef wedi clywed ei enw o'r blaen. Hyd nes y cyfyd ein balchder cenhedlaethol, hyd nes y parchwn ein hunain, hyd nes y ffieiddiwn addoliad pob peth estronol am ei fod yn estronol, hyd nes y rhoddwn ddyledus barch i'n tadau ein hunain, ni wiw i ni ddisgwyl parch gan bobl gwledydd ereill.

Y mae dyddiau gwell yn siwr o fod ar wawrio. Dywedai'r gyrrwr fod mwy o Gymry wedi bod yn ei gerbydau eleni nag erioed. Y gwir ydyw fod Cymry'n talu mwy o barch i'w hiaith na chynt, ac yn ei siarad, er eu bod, trwy hynny, yn colli eu lle fel "byddigions,"—yng Nghymru. Oni ddaw addysg, yn enwedig addysg ganolraddol, i roddi syniadau gwell i Gymry am danynt eu hunain? Daw. Ond rhaid cofio fod llywodraethwyr ysgolion, y dydd hwn, wedi dewis Saeson anghymwys o flaen Cymry cymwys. Yn yr uchel leoedd hefyd y mae'r Cymro. a'i wyleidd-dra'n wasaidd, yn plygu o flaen "byddigions."

Ond waeth i mi heb daro tôn mor hen. Gadewch i ni fwynhau yr olygfa ar fynyddoedd Meirion,—ni wargrymasant hwy mewn gwaseidd—dra erioed. Cawn gipolygon arnynt o bobtu i ni, ac ambell gipolwg ar yr afon sydd yn ein hymyl o hyd, trwy goed tewfrig, a'u dail