yn awyr y cynddydd. Mewn eiliad ymdyr y mân adar i orfoleddu. Dan swyn a chyfaredd cydgord y plygain, ymgynhyrfa'r blodau, ymysgydwant o'u cwsg, lluchiant y mân-wlith fel perlau oddiar eu hemrynt, ac ar goesigau o felfed ymsythant i wrando ar fawlgerdd yr ednod. Agora yr aspygan, a'r anemoni, a melyn y gwanwyn, a dant y llew, a bara cann y gwcw eu llygaid mewn mewn syndod, ac ymestynnant ar flaenau eu traed i roesawu pelydrau cyntaf y wawrddydd.
Mae'n braf heddyw. Mae Natur yn ei hwyliau gore, a'i threm fu'n hir yn sarrug yn awr yn siriol. Ddowch chwi i'r wig eto am dro? Dyma hi o danom, a dim namyn y gwrych rhyngom â hi. Ymleda fel darlun o'n blaen. Welwch chwi, mae'n fyw ferw drwyddi. Mae pob coeden sy ynddi yn curo dwylaw. Maent yn estyn eu breichiau hirion, cyhyrog, allan, ac yn eu cwhwfan, cwhwfan, fel pe'n llawen gyfarch eu gilydd ar ddychweliad y Gwanwyn. Cyfarch yr onnen sy fan yma, y lwyfanen sy fan draw, a honno y fasarnen sy acw, a chwardda'r blodau yn y cysgod danynt. Cludir peroriaeth yr adar o'r pellter, ar edyn yr awel, i'n clustiau. Onid yw'r felodi'n swynol, a'r fawl-odl yn ein synnu? Gwrandewch,—
Glywch chwi dwrw'r telori, glywch chwi daro'r telynau?
Glywch chwi ar gangau yr irgoed swn yr organau?
Dyma ni yn y wig, yn sefyll ar y boncyn y safasom arno llynedd. Mae carped o fwswgl faswed a gwlan cribedig wedi ei ledu dros y llecyn.