TELOR YR HELYG.
"And this our life, exempt from public haunt,
Finds tongues in trees, books in the running brooks,
Sermons in stones, and good in everything."
—Shakespere.
"The meanest flower of the vale,
The simplest note that swells the gale,
The common sun, the air, the skies,
To me are opening paradise."—Gray.
AETH y blwng Aeaf, a'i rew, a'i oerni, a'i bluf eira heibio. Camasom dros riniog y Gwanwyn, a safwn yn awr yn ei gyntedd. Gwelir blodau yn dryfrith ar y ddaear; daeth y wennol yn ol i'w chynhefin i chwilio am le nyth o dan y bondo; ac yma ac acw, ond anaml eto, clywir hyfrydlais y gwew lwydlas yn ein gwlad.
Dydd Sadwrn ydyw,—boregwaith teg rhywiog o Ebrill,—mis y mill a'r briallu, mis gwyn y ddraenen ddu, a mis difyr yr adar. Bob bore, ar lasiad y dydd, pan egyr y Wawr â bysedd rhosliw eurddorau y dwyrain, telora deryn du ei fawlgan blygeiniol oddiar irigyn pren gerllaw'r ty. Bore-goda yr ehedydd o'i iwth o flodau ar lawr y weirglodd, ymdorra i oroian, esgyn ar esgyll gwlith-emog i lasfro yr entrych, a chana ei ddyri yno fel cyngan angel, pan ddwyrea yr Haul,—llygorn y dydd, mewn urddas dros drum y mynyddoedd. Eilir y carolau hyn gan odlau hyawdl y ceiliog bronfraith. Tincia ei nodau perorol fel cyngan ariangloch