Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwresog yw'r haul ar gnufau'r mwswgl. Teifl bedwen arian garedig gysgod ei changau deildlysog drosom. Wynned yw pelydr yr haul ar y paladr arian! Croga y briger meindwf dros fwnwgl y pren fel llywethau ffluwchog dros wddwf llaethwyn,—chwifiant fel cnufau o hirwallt dros ysgwyddau o ifori. Unwaith eto,maddeuwch i mi,—mae'r fedwen yn hardd. Saif yn dalsyth, fel rhian delaid, ym mysg prennau garwach a thalgryfach y wig. Wele yma fasarnen wasgarog; wele acw onnen braffgeinciog; ac wele draw lwyfanen frigog,-i gyd yn ffyrfach na'r fedwen feindlos. Yn ei hymyl, mewn clog o eiddew clymog, fel pe'n ei gwylio'n eiddig, saif pren derw rhwysgfawr, garw ei risgl, a diysgog ei osgedd, yn ardeb byw o Gadernid yn serch-noddi Prydferthwch.

Mae ysbryd y peth byw—ysbryd y Gwanwyn—fel dylanwad cyfrin yn cyniwair drwy'r lle. Ymrithia ym mhobman. Anadla ar y wig; neidia honno i fywyd fel o dan gyffyrddiad hudlath y rhiniwr. Ymchwydda, a dychlama 'r briddell dan ein traed; llydna y tyweirch cyfebron; ac esgorant ar brydferthwch ar bob llaw. Gwreichiona blodau yn fil ac yn fyrdd o groth epiliog y ddaear, cil-agorant eu hemrynt, a gwrid-wenant yn serchoglawn ar arffed aroglber eu mam. Ymsaetha'r irwellt rhigolog drwy'r gweryd, mewn gwisg dlos o las gloew, ac ymsythant gan falchder tra y rhydd pelydr melyn yr haul arliw o aur ar geinder eu hemerald. Blaendardda y coed o flaen ein llygaid. Ymwinga y blagur—y dail-fabanod—yn eu dillad magu, ymystwyriant yn eu cewylllythau crynedig, ysmiciant drwy eu cwcyllau,