Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddiosgant o blygion eu gaeafwisg, a gwylwthiant eu pigau allan i dderbyn o gusanau yr heulwen loew sy'n cydgam â hwy ar sigl-lawr y cangau. Daw'r awelon ysgeifn, hoewfyw, ystwyth heibio dan suo-suo-ganu, cyffyrddant hwythau â min yr egin, gogleisiant hwy, ymlapiant am danynt, ac esgud-lithrant i lawr yr osglau gyda si-si a rhugldrwst i chware â glas glychau'r hyacinths sy'n hongian ar fain-goesigau wrth fôn y prysglwyn.

Pwy fu'n lluchio aur ac yn gwasgar arian dan y gwasgodlwyn? Serena milfil o fluron gwyn a melyn goludog dan gangau moelion y tewgoed—siriolant aneddau 'r Cysgodion. Edwyn y blodau, fel yr adar, eu tymhorau. Oer yw'r plygeiniau yr adeg yma, ac anwydog yw'r nosweithiau, felly ymdyra'r blodau dan ynn a deri, ac ymgasglant at eu gilydd yn llu mawr cyfeillgar i ddiddosrwydd llwyn a thwyn a pherth, ac ychydig welir ar y llecynau agored. Wrth fon y berth yn y fan yma cartrefa'r arllegog hirdwf eofnsyth. Gelwir hi gan y Saeson, oddiwrth ei blas a'i harogl, yn garlic-mustard. Ar lafar gwlad a dan yr enw Jack-by-the-hedge a sauce-alone. Dan y mieri, ar y naill ochr i ni, ffynna marddanadlen wen ac eiddew'r ddaear; ac yng nghysgod y llwyn, yr ochr arall tyf mefusen goeg,[1] a'r moschatel, a phidyn y gog. Llathra brieill gwynfelyn lethrau glaswelltog y clawdd dan gysgod y

  1. Potentilla Fragariastrum: Strawberry—leaved cinquefoil—un o flodau bychain cynaraf y Gwanwyn. Camgymerir hwy yn aml gan lysieuwyr ieuaince am y mefus gwylltion. Gorweddant ar y ddaear tra y tyf y mefus yn sythion i fyny.