Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrych sy o'n blaen, a disgleiria'r mill fel amethysts yng ngwyll y drain a'r prysgyll gerllaw. Ymfwa'r fieren, a phlyg ei phen i ymgomio a'r blodau sy'n gwenu ogylch ei thraed. Edrych y ddraenen, sy eto'n ddiaddurn, i lawr fel delw o syndod ar dlysni y blodau. Ond aroswch, bydd hithau 'n deg ddihefelydd toc, dan haul melyn Mai, pan y bydd ei llyfnddail fel liainau emerald, a phob cangen lathrwen fel pleth o eira.

Ar bwys y mur sydd rhyngom â'r ysgol saif rhes o yspyddaid preiffion, a'u cangau'n ymdaflu allan droedfeddi i bob cyfeiriad. Ymsigla'r cangau hyn yn ysgafn, tra y cân yr awel hwiangerddi suo eu blagur tyner i gyntun. Yn eu cysgod, wrth draed a than odreu y coed, ymlecha llu mawr o lysiau bychain disglaer, deuliw eu dail. Tyfant finfin â'r llawr fel rosettes, ac ymwasgant mor glos ac mor dyn at eu gilydd fel nas gwelir difyn o'r ddaear rhyngddynt. Tew-frithir y carped lathr yma gan flodau melynion yn pelydru fel ser aur, ac yn gwreichioni fel lliw efydd gloew. Pipiant, fel cariadon oddi dan gwrr y llwyni; ymddangosant drwy y dellt, ac edrychant drwy'r ffenestri allan ar ogoniant teryll y dydd. Safant ar eu traed, ymogwyddant oll yr un ffordd fel pe am gychwyn am dro o'r gwyll i wawl yr heulwen. Bron na welwn hwy'n symud, ac yn cerdded yn rhengau trefnus tuag allan. A ydynt yn cychwyn, dywedwch? A ydynt yn symud? Dyma rai, welwch chwi, wedi cyrraedd y trothwy, ac ereill wedi camu drosto i'r lawnt sy o flaen eu cartref, ac yno, yng nghwmni daint y llew, a llygaid y dydd, ymheulant yn braf rhwng llafnau'r glaswellt.