Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blodau yma, a phan fo barrug gloewlwyd y nos wedi hir gilio, a gwres a thes yr haf braf yn ei anterth. Carant hwy arogl y corfeillion,[1] a chwmni y swynfri[2] aur-lygad ar y llanerchau heulog agored. Cyn pen hir melynant wyneb y meusydd; gwelir cwpan aur wrth bob irwelltyn; a bydd gwawr golud ar y gweirgloddiau.

"Buttercups," meddwch, ond dywedais ddigon wrthych i brofi nad buttercups mo honynt. Unwaith eto, beth ydynt ynte? Wel, dyma lygaid Ebrill, neu'r milfyw, neu felyn y Gwanwyn, neu wenith y ddaear, neu wenith y gog, neu lygad dyniawed. Mae iddynt enw gwerinol arall. Tynnwn un o'r llysiau, yn wraidd a chwbl, o'r ddaear. Mae i'r gwreiddyn, fel y canfyddwch, nifer mawr o fân gnapiau hirgrynion, rhywbeth tebyg i gloron bychain yn dechreu ymffurfio. Tybiai'r hen bobl-a mawr oedd eu darfelydd-fod y cnapiau yma'n debyg ran ymddangosiad i glwyf y marchogion (hæmorrhoids neu'r piles) a chredent, o ganlyniad, fod trwyth neu isgell neu eli o'r llysiau yn feddyginiaeth rhag y cyfryw ddolur,[3] felly

  1. Lotus Corniculatus: Common Bird's-foot trefoil Blodeuant ym Mehefin. Gelwir hwy weithiau yn "traed-yr-oen," a chan y Saeson yn "shoes-and-stockings.
  2. Llygaid y dydd neu'r aspygan.
  3. Rhoddwyd "llysiau'r ysgyfaint" (lungwort) yn enw ar blanhigyn adnabyddus arall am fod ei ddail yn ysmotiog fel yr ermyg hwnnw. Credid oherwydd hynny eu bod yn rhinweddol at ddoluriau yr ysgyfaint. Oherwydd eu tebygolrwyd i'r afu (iau) galwyd llysiau cyffredin ereill yn "llysiau yr afu" (liverwort). Tybid, wrth gwrs, fod y rheiny yn llesol at glefydon yr organ honno.