galwyd hwy ganddynt-a gelwir hwy eto ar lafar gwlad yng Ngheredigion, mi wn, a mannau ereill, fe allai-yn "ddail piles." Coleddid yr un syniad—cyfeiliornus mae'n ddiau—yn Lloegr, ac un o enwau cyffredin y Saeson, hwythau, arno yw "pilewort." Y milfyw melynliw yma yw y "little celandine," a gerid gan Wordsworth, ac y torrwyd darlun o hono, fel y crybwyllais dro yn ol, ar garreg fynor ei fedd. Camenwid ef yn buttercup yn ei oes yntau, a dygai hwnnw—flodyn yr haul—y clod ddylasai ef—flodyn y gwyll—gael, fel yr awgrymir gan y bardd yn ei folawd iddo,
Ill befall the yellow flowers,
Children of the flaring hours!
Buttercups that will be seen
Whether we will see or no;
Others, too, of lofty mien ;
They have done as worldlings do,
Taken praise that should be thine,
Little, humble, celandine!
Ydynt, y maent yn ddigon tebyg i'r buttercups. Nid rhyfedd hynny, canys perthyn y naill a'r llall o honynt i'r un tylwyth. Er nad ydynt frodyr, eto maent yn geraint agos, efallai yn gefnderwyr. Cydneseifiad iddynt yw crafanc yr eryr,[1] a'r poethfflam,[2]. a gold y gors[3] a'r arianllys.[4] Mae'r oll, fel hwythau, â blodau melyn. Y mae iddynt berthynasau o liwiau